#

 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-741

Teitl y ddeiseb: Mae angen Cyfyngiadau Llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru

Testun y ddeiseb:

Mae angen llywodraethu a chraffu llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae angen rhoi’r gorau i droi tir amaethyddol proffidiol yn gynefinoedd ac yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle mae’n rhaid i’r ffermwr gydymffurfio gyda hyd yn oed mwy o gyfyngiadau er mwyn ceisio gwneud bywoliaeth!

Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (yr ochr Amgylcheddol) yn sefydliad sy’n cynnwys swyddogion nad ydynt yn barod i wrando ar wybodaeth leol, a dim ond yn rhoi cyngor yn unol â’r hyn y gallant ei ddarllen mewn llyfrau! Dim ond un nod mewn bywyd sydd ganddynt, a hynny yw troi ein cefn gwlad yn un warchodfa natur amhroffidiol enfawr ar draul y trethdalwr a chymunedau gwledig yn gyffredinol! Mae angen i’n cynrychiolwyr etholedig graffu’n agosach ar eu gwaith!

Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad i adolygu arferion a pholisïau cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y ffordd y mae’n gweinyddu tir a allai gael ei droi’n gynefin neu’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ar hyn o bryd, mae’r sefydliad yn gwneud mwy o ddrwg na da i gefn gwlad! Mae angen taro cydbwysedd a fydd o fudd i bawb.

Y cefndir

Cyfoeth Naturiol Cymru

Sefydlwyd Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd yn disodli tri chorff, sef Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill 2013. Y mae hefyd wedi ymgorffori rhai o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ei hun. Yn ddiweddarach, ym mis Ebrill 2015, trosglwyddodd Llywodraeth Cymru swyddogaethau’r tri Bwrdd Draenio Mewnol, a oedd yn gweithredu yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru, i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru amrywiaeth eang o rolau a chyfrifoldebau, a gaiff eu nodi ar ei wefan: Cyfoeth Naturiol Cymru - Yr hyn rydyn ni’n ei wneud? Maent yn cynnwys:

§    Rheoleiddiwr: yn gwarchod pobl a’r amgylchedd, gan gynnwys y diwydiannau morol, coedwigaeth a gwastraff, ac yn erlyn y rhai sy’n torri’r rheoliadau rydyn ni’n gyfrifol amdanynt; a

§    Dynodwr: ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – ardaloedd sydd o werth neilltuol oherwydd eu bywyd gwyllt neu eu daeareg, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a Pharciau Cenedlaethol, yn ogystal â chyhoeddi Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn diffinio pwrpas statudol Cyfoeth Naturiol Cymru fel ‘rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy’ yng Nghymru. Ymhlith pethau eraill, mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi’r pwerau i Gyfoeth Naturiol Cymru lunio cytundebau rheoli tir, gyda pherchnogion tir, i hyrwyddo cyflawniad unrhyw amcan o fewn ei swyddogaethau. Bydd y cytundebau hyn yn disodli cytundebau rheoli tir cyfredol mewn perthynas â Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a nodau ehangach o ran cadwraeth natur.

Caiff Cyfoeth Naturiol Cymru Lythyr Cylch Gwaith ar ddechrau pob blwyddyn ariannol sy’n nodi’r hyn y mae Gweinidogion Cymru am iddo ei gyflawni yn ystod y flwyddyn honno. Mae llythyr cylch gwaith 2016-17 yn pwysleisio y dylai rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol ddigwydd ‘cyn gynted â phosibl’ ar draws swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru ‘o fewn y fframwaith a’r pwerau a ddarperir gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru)’.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn ardal a ddiogelir o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 oherwydd ei bod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daeareg neu nodweddion tir sydd o bwysigrwydd arbennig. Mae dros 1,000 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru, sy’n cwmpasu bron i 12 y cant o’r wlad. Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn darparu amddiffyniad statudol i ardaloedd a gaiff eu hasesu fel rhai â’r enghreifftiau gorau o blanhigion ac anifeiliaid, o nodweddion daeareg neu nodweddion ffisiograffigol yn y DU, ac yn aml maent yn sail i ddynodiadau cadwraeth natur cenedlaethol a rhyngwladol eraill. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â rheolwyr tir (perchnogion / deiliaid) i sicrhau y ceir cytundebau rheoli sy’n amddiffyn safleoedd ymhellach.

Mae’n ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru ddewis safleoedd ar sail meini prawf gwyddonol (a gyhoeddir gan Gyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y DU). Mae’n rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru roi gwybod i Weinidogion Cymru (a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys tirfeddianwyr a deiliaid tir) ei fod o’r farn bod ardal o ddiddordeb arbennig. Yna, cynhelir proses ymgynghori ffurfiol. Wedyn mae gan y perchennog neu’r deiliad tir dri mis i nodi unrhyw wrthwynebiad i’r hysbysiad ynghylch Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Rhaid i reolwyr tir gyflwyno cais am ganiatâd, i Gyfoeth Naturiol Cymru, os ydynt am gynnal gweithrediadau sy’n debygol o niweidio diddordeb gwyddonol y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol neu ran ohono, fel torri coed, aredig glaswelltir, draenio tir gwlyb neu wneud newidiadau mawr i’r ffordd y caiff y tir ei bori.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, at y Pwyllgor ar 17 Ionawr 2017. Mae’r llythyr yn cynnwys esboniad manwl ar rôl Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig waith craffu ar Gyfoeth Naturiol Cymru ar 2 Tachwedd 2016. Er nad oedd y Pwyllgor yn ystyried rôl Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig newydd, fe wnaeth ei herio ar gyflwr ardaloedd a warchodir ar hyn o bryd yng Nghymru.

Yn dilyn y sesiwn, ysgrifennodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at Gyfoeth Naturiol Cymru ar 2 Rhagfyr 2016, yn datgan ei fod yn ‘disgwyl gweld gwelliant mawr yn y maes hwn a gaiff ei ddangos gan dystiolaeth o gynnydd tuag at gyrraedd targed corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru y dylai 95 y cant o safleoedd rhyngwladol (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a safleoedd Ramsar) yn cyflawni statws cyflwr ffafriol’. Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a safleoedd Ramsar yn enghreifftiau o ddynodiadau rhyngwladol sy’n aml yn seiliedig ar ddynodiadau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig presennol y DU.

Ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 3 Ionawr 2017 (PDF 183Kb) gan ddatgan:

Achieving or maintaining appropriate conservation management in the longer term, on sites owned and managed by a diverse range of owners, occupiers and organisations, requires consultation and ongoing dialogue with NRW on proposed operations. NRW officers from our locally based teams visit sites to assess condition and to discuss management practices and sources of funding with owners and occupiers. In some circumstances we can offer to enter into a management agreement where a management plan for the site is developed and agreed. Owners and occupiers can also enter into Glastir which provides financial support to carry out management which is compatible with protection and/or restoration.

NRW is developing a programme focused on embedding sustainable natural resource management into all of its work, including reviewing the contribution of protected sites to the ecosystem approach and natural resource management.

The Special Sites Programme is NRW’s high level ‘plan’. It identifies the conservation management issues and actions required on all management units across all SSSIs in Wales, including land directly managed by NRW (Welsh Government Woodland Estate and National Nature Reserves) and sites managed by all other owners and occupiers. This data is used to prioritise how the NRW budgets are spent, to inform NRW annual work programmes, and to inform forward planning. We work with individual landowners and land owning organisations to share information on conservation management issues advising, and guiding their priorities.

Glastir yw cynllun amaeth-amgylcheddol Llywodraeth Cymru a gaiff ei ariannu drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymru ar gyfer 2014-2020.

Mae’rPwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn bwriadu cynnal gwaith craffu ar Gyfoeth Naturiol Cymru yn flynyddol yn ystod y Pumed Cynulliad.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.